DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 

TEITL

Cronfeydd wrth Gefn a ddelir gan Awdurdodau Lleol

 

DYDDIAD

14 Tachwedd 2018

 

GAN 

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

 

 

Fel rhan o gyfres o wybodaeth gyda'r bwriad o sicrhau tryloywder mewn materion cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data blynyddol ar lefelau'r cronfeydd a gedwir wrth gefn gan awdurdodau lleol.[1] Mae lefelau'r cronfeydd a gedwir wrth gefn gan Awdurdodau Lleol Cymru yn fater i'r aelodau etholedig yn lleol.  Wrth gwrs, mae'n bwysig i etholwyr lleol ac aelodau etholedig ddeall manylion lleol a pholisïau awdurdodau ynghylch gosod a chadw cyllid wrth gefn. Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn gosod enghreifftiau ehangach a'r tueddiadau dros gyfnod o amser. 

 

Mae'n synhwyrol adeiladu a chadw cronfeydd wrth gefn at ddibenion penodol, gan gynnwys trawsnewid gwasanaethau i ateb y pwysau ariannol parhaus rwy'n cydnabod y mae cynghorau'n ei wynebu. Bydd angen o hyd i awdurdodau gadw cronfeydd wrth gefn ar gyfer pethau fel yswiriant a rhwymedigaethau Mentrau Cyllid Preifat, a all fod yn sylweddol. Gall llithriadau ar gyfer mathau penodol o brosiectau effeithio ar amseriad tynnu o'r cronfeydd wrth gefn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cadw darpariaeth wrth gefn, yng nghyd-destun dyraniadau gwariant o £14.5 biliwn ac yn gymesur i'r amrywiaeth o beryglon sy'n wynebu'r Llywodraeth ar draws pob portffolio.

 

Disgwylir i Awdurdodau Lleol amlinellu, mewn ffordd glir a hygyrch i'r cyhoedd, sut y gosodwyd lefel y cronfeydd hapddigwyddiadau cyffredinol a manylion am y gweithgareddau neu'r eitemau i'w hariannu o bob cronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi.

Dim ond unwaith y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i amddiffyn awdurdodau lleol rhag toriadau gwariant gwaethaf Llywodraeth y DU. Er bod pob awdurdod, wrth gwrs, yn wynebu amgylchiadau penodol, mae'r dystiolaeth yn dangos bod lefelau'r cronfeydd wrth gefn sy'n cael eu cadw gan rai awdurdodau lleol wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.  Rhaid i awdurdodau sy'n cynyddu lefelau eu cronfeydd wrth gefn egluro sut mae'r penderfyniadau ariannu hyn er budd eu cymunedau. Os yw'r cronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw rhag ofn na lwyddir i gyflawni newidiadau a gynlluniwyd i wasanaethau er mwyn ateb pwysau ar y gyllideb, bydd angen i awdurdodau ystyried a yw eu cynlluniau yn rai realistig.

 

Rwy'n credu y bydd awdurdodau lleol Cymru yn dymuno defnyddio eu cronfeydd wrth gefn mewn ffordd strategol i ysgogi'r newidiadau sy'n ofynnol i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau. Bydd angen iddynt ystyried sut i ddefnyddio'r cronfeydd sydd ar gael i gydweithio gydag eraill i sicrhau arbedion effeithlonrwydd tymor hir. Dylai pob awdurdod barhau i sicrhau bod eu cronfeydd wrth gefn yn ddigonol ar gyfer anghenion wedi'u cynllunio neu hapddigwyddiadau yn y dyfodol, heb osod cyfyngiadau gormodol ar wariant presennol. Dylai awdurdodau lleol sydd â lefelau uchel o gronfeydd wrth gefn o gymharu â'u gwariant adolygu'r dibenion ar gyfer eu cadw i sicrhau bod eu hangen o hyd. Dylai diben cadw cronfeydd wrth gefn gael ei gyfathrebu'n glir drwy'r cyfrifon blynyddol, yn arbennig os ydynt yn cynyddu.

Mae'r wybodaeth sydd wedi'i hatodi yn rhoi cyd-destun i gronfeydd wrth gefn yr awdurdodau gan gyfeirio at eu gwariant blynyddol fel bod modd cymharu rhwng awdurdodau o wahanol feintiau a dros gyfnod o amser. Mae'r atodiad hefyd yn dangos amrywiad a symudiad ar draws awdurdodau ar yr un sail ar gyfer pob awdurdod ym mis Mawrth 2011, 2016 a 2018. 

 

Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos, ar ddiwedd mis Mawrth 2018, bod cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi i bob awdurdod lleol yn £866 miliwn. Mae'r rhain yn gronfeydd a neilltuwyd ar gyfer prosiectau neu ddibenion penodol. Mae awdurdodau hefyd yn cadw cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi i fynd i'r afael â sefyllfaoedd na ellir eu rhagweld. Ar ddiwedd mis Mawrth 2018 roedd gweddill y cronfeydd hyn yn £198 miliwn.

 

Cyfartaledd y cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi fel canran o wariant Cymru ym mis Mawrth 2018 oedd 12.1% o gymharu â 10.9% ym mis Mawrth 2011. Gwelwyd cynnydd o £122 miliwn yn y lefelau ers mis Mawrth 2011; mae unarddeg awdurdod wedi gweld gostyngiad dros y cyfnod hwn a unarddeg wedi gweld cynnydd.

 

Yn yr un modd, mae lefelau cronfeydd wrth gefn heb eu neilltuo wedi cynyddu £41 miliwn ers mis Mawrth 2011. Gwelodd pump awdurdod lefelau is dros y cyfnod, ond gwelodd un deg saith lefelau uwch.


 

Cronfeydd wrth gefn

 

 

 

 

 

 

 

 

CRONFEYDD WRTH GEFN DEFNYDDIADWY*

 

I’w gario ymlaen ar 31 Mawrth 2018

Cronfeydd wrth gefn Cyffredinol neu heb eu Dyrannu

Balans y Cyfrif Refeniw Tai (HRA)

Cronfa Derbyniadau Cyfalaf

Cronfa wrth gefn Ysgolion

Cyfrif Grantiau Cyfalaf heu eu Cymhwyso

Cronfeydd eraill wedi'u clustnodi wrth gefn

Cyfanswm Cronfeydd Defnyddiadwy

Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol

£m

£m

£m

£m

£m

£m

£m

Ynys Môn

6.9

7.4

0.3

1.9

0.0

7.6

24.1

Blaenau Gwent

6.1

0.0

8.3

0.2

0.7

4.8

20.1

Pen-y-Bont ar Ogwr

8.3

0.0

21.2

0.4

0.3

47.7

77.9

Caerffili

13.2

5.1

8.5

2.0

9.1

71.8

109.8

Caerdydd

14.3

12.2

21.3

6.0

0.0

55.8

109.6

Sir Gaerfyrddin

9.8

20.1

8.6

1.5

0.6

81.1

121.7

Ceredigion

5.5

0.0

6.4

1.9

1.9

14.0

29.7

Conwy

6.3

0.0

1.4

3.4

0.6

11.1

22.7

Sir Ddinbych

7.5

2.2

5.4

-0.3

3.2

29.8

47.7

Sir y Fflint

13.7

1.9

14.1

1.3

4.8

13.6

49.4

Gwynedd

5.9

0.0

1.7

4.0

2.1

42.5

56.2

Merthyr Tudful

4.7

0.0

0.2

1.8

2.0

14.6

23.4

Sir Fynwy

7.1

0.0

3.6

0.2

0.0

7.4

18.2

Castell-nedd Port Talbot

20.0

0.0

6.8

2.9

10.1

36.6

76.4

Casnewydd

5.9

0.0

8.9

4.8

0.0

82.7

102.3

Sir Benfro

6.7

0.8

4.9

1.8

0.0

45.3

59.5

Powys

9.7

3.3

7.6

-0.9

1.5

28.3

49.4

Rhondda Cynon Taf

10.7

0.0

1.1

3.4

7.4

129.4

152.1

Abertawe

9.4

6.8

6.5

7.3

13.5

51.8

95.1

Torfaen

9.2

0.0

8.5

2.0

2.5

7.5

29.7

Bro Morgannwg

9.6

0.8

11.3

2.6

1.9

66.5

92.6

Wrecsam

7.0

5.0

13.1

2.0

0.6

16.8

44.5

Pob Cyngor Sir a Phob Cyngor Bwrdeistref Sirol

197.6

65.5

169.6

50.3

62.6

866.7

1,412.4

Yr Heddlu

 

 

 

 

 

 

 

Heddlu Dyfed-Powys

4.0

0.0

0.0

0.0

0.8

15.7

20.5

Heddlu Gwent

14.7

0.0

1.7

0.0

0.0

41.3

57.7

Heddlu Gogledd Cymru

5.2

0.0

1.5

0.0

0.0

19.2

25.9

Heddlu De Cymru

9.7

0.0

0.0

0.0

0.0

22.2

31.9

Yr Holl Heddlu

33.6

0.0

3.2

0.0

0.8

98.4

135.9

Awdurdodau Tân ac Achub

 

 

 

 

 

 

 

Canolbarth a Gorllewin Cymru

 0.4

0.0 

0.0

0.0

0.0

8.6

9.0

Gogledd Cymru

2.1

0.0

0.0

0.0

0.0

0.6

2.7

De Cymru

3.0

0.0

0.8

0.0

0.0

15.0

18.8

Pob Awdurdod Tân ac Achub

5.1

0.0

0.8

0.0

0.0

15.6

21.5

* Mae ‘cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn derm cyfrifyddu cydnabyddedig ag ystyr bendant. Ond mae cyfyngiad ar ddefnyddio rhai cronfeydd. Dim ond y cronfeydd cyffredinol a’r rhai wedi’u clustnodi a ddefnyddir yn y graffiau canlynol

 

Ffynhonnell: Cyfrifon y Llywodraeth Gyfan 2017-18 - ffurflenni Cylch 2



 



[1] https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/whole-government-accounts/publications/whole-government-accounts-reserves/?skip=1&lang=cy